Buddsoddi yn Nhreftadaeth a Seilwaith Ymwelwyr Parc Gwledig Ystâd y Gnoll
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi cyflwyno cais llwyddiannus am arian i Gronfa Ffyniant Bro (LUF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno gwerth £12 miliwn o fuddsoddiad yn ystod y ddwy flynedd nesaf ym Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll. Bydd hyn yn:
- Gwella’r cyfleusterau i ymwelwyr, gan gynnwys y ganolfan ymwelwyr, yr opsiynau chwarae sydd ar gael, a’r llwybrau
- Adfer strwythurau treftadaeth fel Seleri Tŷ’r Gnoll a’r sgydau ffurfiol
- Gwneud gwelliannau i amgylchedd naturiol y parc gwledig ehangach.
Mae’r Cyngor yn awyddus i glywed barn trigolion ac ymwelwyr â Pharc Gwledig Ystâd y Gnoll ynghylch y cynigion hyn, sydd yn y cyfnod dylunio cynnar.
I gael gwybodaeth fanwl am y cynigion ar gyfer y Parc, lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth isod.
Bydden ni’n ddiolchgar os gallech chi gymryd ychydig funudau i gwblhau’r arolwg yma ar-lein er mwyn rhoi adborth ar y cynigion. Cewch hyd i’r arolwg ar-lein ynghylch buddsoddiad Treftadaeth a Seilwaith Ymwelwyr Parc Gwledig Ystâd y Gnoll trwy ddilyn y ddolen yma.