Hepgor gwe-lywio

Parc Gwledig ystâd y Gnoll

Beth sy'n digwydd ym Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll?

Gwneir gwaith ar brosiect uchelgeisiol sy'n werth £12m ar hyn o bryd ym Mharc Gwledig y Gnoll i foderneiddio cyfleusterau i ymwelwyr ac i adfer nodweddion hanesyddol

Oriau agor

Haf (1 Ebrill - 30 Medi)

Oriau agor y parc 8.00am - 8.00pm

Oriau agor y caffi dros dro 10.00am - 5.30pm

Parcio

Mae ffioedd parcio'n berthnasol 7 niwrnod yr wythnos rhwng 8am a 6pm

Beth sy'n digwydd ym Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll?

Gwneir gwaith ar brosiect uchelgeisiol sy'n werth £12m ar hyn o bryd ym Mharc Gwledig y Gnoll i foderneiddio cyfleusterau i ymwelwyr ac i adfer nodweddion hanesyddol. Mae'r gwaith, y disgwylir iddo gymryd oddeutu blwyddyn i'w gwblhau, wedi'i gynllunio i wella cyfleusterau yn y parc ar gyfer ymwelwyr.

Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddwch yn profi rhai ymyriadau a allai effeithio ar eich ymweliad dros dro. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn a gwerthfawrogwn eich dealltwriaeth a'ch amynedd wrth i ni weithio tuag at eich croesawu i Barc Gwledig Ystâd y Gnoll newydd a gwell yn fuan.

Yn ystod cyfnod y gwaith, bydd cyfleusterau arlwyo a thoiledau dros dro ar gael er mwyn parhau i groesawu ymwelwyr.

Ariennir y prosiect gan Llywodraeth y DU drwy brosiect Coridor Treftadaeth Cwm Nedd, a gwneir y gwaith canlynol yn y parc:

  • Dymchwel y ganolfan ymwelwyr bresennol sy'n heneiddio
  • Canolfan ymwelwyr ddeulawr newydd sy'n hollol hygyrch ac sy'n cynnwys caffi modern, golygfeydd o'r llyn o falconi hyfryd sy'n wynebu'r de, cyfleusterau ar gyfer digwyddiadau, cyfarfodydd a chynadleddau a lle chwarae meddal pwrpasol i blant
  • Cyflwyno lle chwarae antur mewn coetir cyffrous newydd sydd wedi'i ddylunio fel atyniad i blant a theuluoedd
  • Atgyweirio bwthyn y llyn a'i ddefnyddio eto fel llety gwyliau ar gyfer 6 pherson
  • Gwaith cyfnerthu ac atgyweirio adfeilion Plas y Gnoll
  • Gwaith adfer ar raeadrau arbennig a hanesyddol y parc
  • Gosod gwybodaeth a dehongliadau ar draws y safle sy'n nodi hanes y parc a'i bwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol i'r ardal
  • Ehangu mannau hamdden a llwybrau cerdded trwy osod pont newydd sy'n cysylltu'r parc â Fferm Brynau, hafan bywyd gwyllt ar 57 o hectarau o dir Coed Cadw
  • Gwella tirlunio a pharcio

Logo Cyngor Castell-nedd Port Talbot    Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU