Y perchnogion cynharaf a gofnodwyd yn Ystâd y Gnoll, a roddwyd yn anrheg gan y Frenhines Elizabeth I, oedd Ieirll Penfro.
Teulu Evans
Mae'r teulu Evans o Gastell-nedd yn honni eu bod yn ddisgynyddion Iestyn Ap Gwrgan, a adwaenir yn Dywysog Morgannwg (a oedd yn cynnwys siroedd traddodiadol Morgannwg a Sir Fynwy).
Yr aelod cyntaf o'r teulu i ymddangos yn ffigwr fwy blaenllaw oedd Evan yr Halen, masnachwr halen o'r 16eg ganrif ac un o ddynion cyfoethocaf yr ardal. Roedd ei ŵyr, David Evans, yn byw yng Nghastell-nedd a daeth yn Uchel Siryf Morgannwg.
Yn wreiddiol, roedd David Evans wedi prydlesu'r Gnoll gan Iarll Penfro am £20. Disgrifiwyd y teulu Evans gan eraill eu bod 'o'r Gnoll' ac yn y pen draw, prynodd y teulu Ystâd y Gnoll ym 1658.
Roedd mab David Evans, sef Thomas Evans, hefyd yn byw yng Nghastell-nedd yn y 1600au ac roedd yn berchen ar dŷ ar Stryd y Dŵr, Castell-nedd. Ym 1658, roedd wedi prydlesu'r Gnoll o'i nai, Syr Herbert Evans 'o'r Gnoll', ac amod y brydles oedd iddo adeiladu tŷ newydd yno. Felly adeiladwyd y plas neuadd bonedd yn y Gnoll gan y teulu Evans a dyna oedd un o'r adeiladau cyntaf a drodd yn y pen draw yn blasty'r Gnoll.
Teulu Mackworth
Priododd Mary Evans, etifedded a merch Syr Herbert Evans, â Syr Humphrey Mackworth ym 1686. Roedd Syr Humphrey Mackworth yn egin-entrepreneur a sefydlodd amrywiaeth o fentrau diwydiannol yn yr ardal ac erbyn diwedd y 17eg ganrif, gweithfeydd Mackworth oedd yr enwocaf yn y wlad.
Mentrau Mackworth
Manteisiodd Syr Humphrey ar adnoddau cyfoethog yr ardal ac erbyn 1702, sefydlwyd melinau a ffwrneisi. Roedd y melinau yn y Gnoll yn cynnwys:
- Melin dyrnu metel ddwbl a sengl a oedd yn creu petheuach a thegellau efydd.
- Melin ar gyfer rholio haearn a chreu efydd (platiau neu lenni tenau).
- Melin i gynhyrchu gwifrau efydd.
- Nifer o weithfeydd ar gyfer sodro a sgleinio tegellau.
- Roedd sawl wyrcws hefyd yn bodoli ar gyfer y gweithwyr a'u teuluoedd.
Yn sgîl llwyddiant mentrau Mackworth, daeth cyfoeth mawr a arweiniodd at estyn Plas y Gnoll a chreu gerddi ffurfiol.
Olynwyd Syr Humphrey gan ei fab, Herbert Mackworth, a estynnodd y plas unwaith eto ym 1730. Roedd ganddo 28 o ddynion yn gweithio i greu gerddi prydferth, ac yn y cyfnod hwn, crëwyd golygfa sylweddol a rhaeadrau ffurfiol yng Nghoed Pwll y Pysgod.
Trwy gydol y 1740au, crëwyd rhaeadrau naturiol yng Nghoed y Tŷ Mwsogl dros filltir o Blas y Gnoll. Gyda threigl amser, adeiladwyd y groto, y deml ffug gastellog, y porthdy a'r Tŵr Iorwg hefyd ar yr ystâd.
Olynwyd Herbert Mackworth gan ei fab, Syr Herbert Mackworth, a adeiladodd tŷ llawer mwy crand rhwng 1776 a 78 i gyd-fynd â'i statws ariannol. Ychwanegodd adeiniau'r gogledd a'r de i greu argraff tyrrau castell.
Olynwyd Syr Herbert Mackworth gan Syr Robert Mackworth ym 1791. Priododd â Mary Ann ym 1792 yn 16 oed, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu farw Syr Robert Mackworth yn 30 oed.
Dechrau'r diwedd