Hepgor gwe-lywio

Sut i gyrraedd

Gwnewch eich taith yn un ddi-ffwdan

Mewn Car

Gadewch yr M4 wrth gyffordd 43 i'r A465. Dilynwch yr A465 i Gastell-nedd, ac yna dilynwch yr arwyddion brown.
Gweler hefyd - Traffig Cymru

Ar y Trên

Mae gan Gastell-nedd orsaf drenau ganolog. Ceir cysylltiadau rheolaidd â phob rhanbarth o'r DU naill ai'n uniongyrchol neu wrth newid unwaith yn hawdd. Ceir Cysylltiadau Rheilffordd rhagorol o feysydd awyr Heathrow Llundain, Gatwick, Bryste a Chaerdydd. Mae Parc Gwledig Ystâd y Gnoll yn daith fws o ganol tref Castell-nedd.

Gweler hefyd - Rheilffyrdd CenedlaetholTrafnidiaeth Cymru

Ar y Bws

O Gastell-nedd: First Cymru 153 i Fairyland
O Bort Talbot: First Cymru X4 i Gastell-nedd, First Cymru 153 i Fairyland
O Abertawe: First Cymru X5 i Gastell-nedd, First Cymru 153 i Fairyland

Gweler hefyd - First Cymru a Traveline Cymru

Opsiynau Teithio Cynaliadwy

Ydych chi'n dod ar y trên neu'r goets ac angen teithio o amgylch Castell-nedd, Port Talbot a'r Cymoedd? Ydych chi'n dod yn y car ac eisiau seibiant o yrru pan fyddwch yma?

Teithio yng Nghastell-nedd Port Talbot neu o'i amgylch ar gludiant cyhoeddus; defnyddiwch BayTrans.

A phan fyddwch yn prynu tocyn trên i Barc Gwledig Ystâd y Gnoll mewn unrhyw orsaf ar dir mawr y DU, gofynnwch am docyn Bws Plws ar gyfer eich taith ymlaen i Gymoedd Afan, Dulais a Nedd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cyfarwyddiadau i SA11 3BS
Parc Gwledig Ystâd y Gnoll
Ystâd y Gnoll
Fairyland
Castell-nedd Castell-nedd Port Talbot SA11 3BS pref
(01639) 635 808 (01639) 635 808 voice +441639635808
© Cyngor Castell-nedd Port Talbot