Ceir ystafell gynadledda yn y Ganolfan Ymwelwyr sy'n ddelfrydol ar gyfer cynnal gweithgareddau, cyfarfodydd, cyrsiau a diwrnodau hyfforddiant. Mae gan yr ystafell olygfa hyfryd dros y prif bwll pysgod. Mae pris llogi'r ystafell yn cynnwys trefnu'r ystafell. Gallwn ddarparu gwasanaeth arlwyo hefyd am gost ychwanegol i ddiwallu anghenion y grŵp.
Mae Wifi am ddim bellach wedi'i osod o fewn y caffi a’r ystafell gyfarfod yn Barc Gwledig y Gnoll
Prisiau
Llogi'r Ystafell am Ddiwrnod Cyfan: £79.00
Llogi'r Ystafell am Hanner Diwrnod: £39.00
I gadw lle, cysylltwch â Chanolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Ystâd y Gnoll.
Nid ydym yn cynnal partïon i blant.