Hepgor gwe-lywio

Bywyd gwyllt

Archwilio'r rhywogaethau niferus o fywyd gwyllt yn y Parc

Mae Parc Gwledig Ystâd y Gnoll yn ardal amrywiol iawn ac yn gartref i amrywiaeth o rywogaethau anifeiliaid, adar, amffibiaid a phryfed. Isod ceir rhai enghreifftiau o'r bywyd gwyllt efallai y byddwch yn ddigon ffodus eu gweld ar eich ymweliad â'r parc.

Hwyaid

Mae bwydo'r hwyaid yn y parc yn un o hoff weithgareddau ymwelwyr. Y math mwyaf cyffredin o hwyaden ym Mharc gwledig Ystâd y Gnoll yw'r hwyaden wyllt.

Mae'r hwyaid hyn yn troi wyneb i waered er mwyn bwydo o blanhigion a phryfed o dan y dŵr. Mae'r hwyaid hyn hefyd yn bwydo o'r tir.

Ceir elyrch a gwyddau ar y pyllau hefyd yn ogystal ag adar sy'n ymweld megis crehyrod sy'n aros i orffwys wrth fudo.

Mae bwyd hwyaid ar gael i'w brynu o'r ganolfan ymwelwyr

Dewch i weld y cywion elyrch yn y Gnoll a deor dros benwythnos gŵyl y banc!

Bywyd yn y Pyllau

Ceir 3 phwll, 1 gronfa ddŵr a 2 warchodfa natur yn y parc. Mae'r gwlypdiroedd hyn yn meithrin amrywiaeth anhygoel o fywyd o bryfed i bysgod i ymlusgiaid.

Er bod rhai anifeiliaid yn bwyta anifeiliaid eraill yn unig (cigysyddion), maent i gyd yn dibynnu ar blanhigion. Y gadwyn fwyd yw'r enw ar hyn ac ar ddechrau pob cadwyn ceir planhigyn o ryw fath.

O amgylch y pyllau a'r gwarchodfeydd natur, byddwch yn gweld brogaod, nadroedd, madfallod a mwy.

Trychfilod

Gall nadroedd cantroed fod â thros 100 o goesau ac maent yn byw o dan foncyffion a rhisgl coed. Gallant fod yn gigysol a bwyta pryfed bach neu yn llysieuol. Mae eu coesau cefn yn hwy na gweddill y coesau ar eu cyrff oherwydd eu bod yn defnyddio'r rhain i deimlo ble maent yn mynd. Mae gan nadroedd cantroed 'grafanc wenwyno' hefyd ar bob ochr eu pennau i ddal a bwyta eu bwyd.

Mae corynnod yn aelodau o'r teulu arachnidau. Ceir llawer o fathau o gorynnod ar draws y byd, ac mae rhai'n gallu lladd pobl. Mae gan gorynnod 8 coes, 2 ran i'w cyrff a 2 binsiwrn. Mae corynnod yn gigysol ac maent yn bwyta pryfed bach. Maent yn gwe-nyddu i ddal eu bwyd ac yn gwenwyno eu hysglyfaeth gyda'u gwenwyn. Mae'r gwenwyn yn toddi y tu mewn i'w hysglyfaeth yn drwch cawl. Mae'r corynnod yn bwyta'r cawl ac yn gadael cragen corff yr ysglyfaeth.

Ceir y fuwch goch gota ledled y DU ac mae'n byw mewn parciau, coedwigoedd, caeau a gerddi. Maent yn aelodau o deulu'r chwilod a gallant fod yn lliwiau gwahanol megis coch, melyn ac oren. Gallant fod wedi'u gorchuddio â smotiau ar eu cyrff. Mae'r fuwch goch gota'n bwyta pryfed gleision, sy'n bryfed bach sy'n bwyta planhigion gardd.

Ceir llawer o drychfilod bach ym Mharc Gwledig y Gnoll, gan gynnwys nadroedd, gwenyn, gwenyn meirch, gweision y neidr, ieir bach yr haf, ceiliogod rhedyn a mwy. Ewch i Coed Cadw i gael mwy o wybodaeth ac i lawrlwytho pecyn gweithgareddau am ddim am fywyd gwyllt Prydain neu i lawrlwytho un o'r teithiau cerdded bywyd gwyllt sydd ar gael ym Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot