Hepgor gwe-lywio

Fflora a Ffawna

Mwynhau'r harddwch naturiol yn y Parc

Mae Parc Gwledig Ystâd y Gnoll yn meithrin amrywiaeth hynod o blanhigion, blodau a choed gan gynnwys ei goedardd ei hun. Isod ceir blas ar y bywyd gwyllt y byddwch yn ei weld ar eich ymweliad.

Coed

Mae gan Barc Gwledig Ystâd y Gnoll ei goedardd ei hun. Casgliad o goed yw coedardd. Fe'i crëwyd gan y teulu Mackworth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan blannwyd sawl rhywogaeth o goed o amgylch y brif dy. Mae coederddi'n lleoedd arbennig i feithrin ac arddangos amrywiaeth eang o goed.

Mae coederddi'n wahanol i ddarnau o goetir neu blanhigfeydd oherwydd eu bod yn gasgliadau o bwys botanegol ag amrywiaeth o rywogaethau coed yn hytrach nag ychydig o fathau'n unig. Mae rhai o'r coed y gellir eu gweld yn y goedardd yn cynnwys coed derw, cochwyd mawrion, prysgwydd, coed leim a chastanwydd melys, ac enwi ond ychydig.

Y Dderwen Gau

Ar ochr y pwll pysgod mae'r dderwen gau. Mae ei chanol wedi bod yn hollol wag ers y 1950au o leiaf ac, yn ddiweddar, rhoddwyd bariau ynddi i gefnogi'r corff. Mae'n rhyfeddol ei fod wedi gallu goroesi yn y cyflwr hwn ac eto, bob haf mae'n cynhyrchu cnwd llawn ac iach o ddail a mês.

Planhigion a Blodau

Gallwch weld enfys o liwiau ym Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll gyda'r llwyth o blanhigion blodeuol a rhedyn sydd yno. Os ewch am dro trwy Goed y Pwll Pysgod yn y gwanwyn, byddwch yn cerdded drwy garped o glychau'r gog. Byddwch hefyd yn gweld llygaid y dydd, blodau ymenyn a suran y coed yn nythu ymysg y coed a thrwy laswelltir agored.

Gwarchodfeydd Natur

Mae'r Tîm Bioamrywiaeth wedi creu 2 warchodfa natur yn y parc er mwyn gwella'r bywyd gwyllt o amgylch y pyllau. Mae gwarchodfeydd natur yn llawn gweithgarwch ac maent yn gartref i amrywiaeth o amffibiaid ac ymlusgiaid. Caniateir i'r planhigion yn y gwarchodfeydd natur dyfu'n wyllt ac yn rhydd fel gall y bywyd gwyllt o'u hamgylch ddefnyddio'r gorchudd i aeafgysgu yn ystod y misoedd oerach. Efallai y byddwch yn gweld ysgorpionllys y dŵr, melyn y gors neu gellesg melyn yn y warchodfa natur.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot