Pleidleisiwyd Parc Gwledig Ystâd y Gnoll yn Fan Picnic Gorau Cymru 2010 gan Wobrau Picnic Cenedlaethol Warburton's.
Mae'r mannau agored ym Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll yn lleoliad perffaith ar gyfer picnics. Ceir digon o le i bawb fwynhau ac mae'n agos at y ganolfan ymwelwyr sy'n cynnwys yr holl gyfleusterau.
Ceir nifer o feinciau picnic o amgylch y parc i'w defnyddio.