Mae Parc Gwledig Ystâd y Gnoll yng nghanol 240 erw o goetir a mannau agored ac fe'i pleidleisiwyd yn Fan Picnic Gorau Cymru 2012 gan Wobrau Picnic Cenedlaethol Warburton's.
Mae'r parc wedi cadw ei hanes drwy adrodd stori teulu Mackworth trwy'r nodweddion gwreiddiol niferus sydd yn y lleoliad o hyd, gan gynnwys pedwar llyn hwyaid mawr, y ddwy raeadr 18fed ganrif nodedig ac adfeilion Plas y Gnoll.
Mae'r parc ar agor drwy gydol y flwyddyn ac mae'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau ac atyniadau i bawb.
Parcio
Mae'r taliadau parcio canlynol yn berthnasol
£2.80 - Hanner y Dydd (hyd at 4 awr)
£3.80 - Trwy'r dydd
Derbynnir prif gardiau credyd / debyd.
Tocynnau Tymor
Gellir prynu tocynnau tymhorol blynyddol o'r dderbynfa am £56.00.
Gallwch hefyd gysylltu â'r swyddfa barcio ar 01639 763939
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch Ganolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gnoll.