Pleidleisiwyd Parc Gwledig Ystâd y Gnoll yn Fan Picnic Gorau Cymru yn 2010 gan Wobrau Picnic Cenedlaethol Warburton's, ac mae o fewn 230 erw o dir.
Mae'r parc wedi cadw ei hanes drwy adrodd stori teulu Mackworth trwy'r nodweddion gwreiddiol niferus sydd yn y lleoliad o hyd, gan gynnwys pedwar llyn hwyaid mawr, y ddwy raeadr 18fed ganrif nodedig ac adfeilion Plas y Gnoll.
P'un a yw ymwelwyr eisiau ymlacio gyda phicnic, mwynhau bywyd gwyllt y parc a bwydo'r hwyaid neu rhoi cynnig ar rywbeth mwy egnïol, mae gan y parc lu o weithgareddau ac atyniadau y bydd pawb yn eu mwynhau mewn diwrnod llawn hwyl.