Hepgor gwe-lywio

Rhaeadrau'n dychwelyd i'r hen ogoniant

Mae'r rhaeadrau hanesyddol wedi cael eu glanhau mewn pryd ar gyfer tymhorau'r Gwanwyn a'r Haf sydd i ddod

Cwblhawyd y gwaith ar y rhaeadrau gan gontractwr lleol gan ddefnyddio cloddiwr bach a chafwyd gwared ar swm sylweddol o silt a llaid.

Yn ogystal â'r rhaeadrau, cliriodd y contractwr nifer o gyrsiau dŵr trwy'r parc.

Crëwyd y rhaeadrau gan deulu diwydiannol cyfoethog y Mackworths.

Mae'r ystad, a roddwyd trwy briodas yn wreiddiol i Syr Humphrey Mackworth, sef Aelod Seneddol a sicrhaodd fod ystad y Gnoll yn ganolbwynt ymerodraeth ddiwydiannol, gan felino a chynhyrchu nwyddau pres a haearn, gan gynnwys tegelli.

Roedd llwyddiant ei waith diwydiannol wedi ei alluogi i osod gerddi ffurfiol ger plasty'r parc.

Ehangodd mab Syr Humphrey, Herbert, a oedd hefyd yn AS, y gerddi unwaith eto ac o 1730, dechreuodd waith tirlunio sylweddol, gan greu golygfeydd ysgubol a chreu'r rhaeadrau.

Dros y degawdau nesaf, ychwanegwyd nodweddion clasurol at y tir, gan gynnwys groto, porthdy a theml gastellog.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot