Hepgor gwe-lywio

Choetir a Chronfa ddŵr y Tŷ Mwsogl

Dysgwch mwy am y Parc

Mae Cronfa Ddŵr Coed y Tŷ Mwsogl yn gallu dal dros 5 miliwn o alwyni o ddŵr ac mae'r ardal o'i hamgylch yn enghraifft wych o gronfa ddŵr Fictoraidd fechan ar gyfer cyflenwi dŵr, sydd wedi creu tirlun heddychlon a deniadol. Cafodd ei hadeiladu ar ddiwedd y 19eg ganrif i ddarparu cyflenwad dŵr i dref Castell-nedd a oedd yn ehangu. Roedd dŵr wedi'i storio'n cael ei ollwng drwy bibell i'r gwelyau hidlo gyferbyn â'r pwll pysgod.

Islaw'r gronfa ddŵr, mae Nant Llanilltud wedi torri dyffryn dwfn a chloddiwyd cwrs dŵr ar ddechrau'r 18fed ganrif ar hyd yr ymyl ddwyreiniol. Mae dyfrffos ddraenio sy'n dilyn y cyfuchliniau hefyd yn cysylltu'r orlifan isaf â'r pwll pysgod a'r Pwll Gini. Barnwyd gan yr Awdurdod Dŵr nad oedd angen bellach y gronfa ddŵr ym 1982.

Coed Tŷ Mwsogl

Mae Coed Tŷ Mwsogl yn gorchuddio ochr ddwyreiniol Parc Gwledig Ystâd y Gnoll. Mae llawer o'r coed yn cynnwys planhigfeydd conwydd sy'n dyddio o'r 1950au ynghyd ag ardaloedd bach o goed ffawydd.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot