Hepgor gwe-lywio

Cyfeiriannu

Herio'ch hun drwy'r llwybrau cerdded niferus yn y Parc

Mae cyfeiriannu'n gamp antur awyr agored sy'n ymarfer nid yn unig i'r corff ond i'r meddwl hefyd.

Y nod yw llywio o bwynt i bwynt gan ddewis y llwybr gorau i gwblhau'r cwrs yn yr amser cyflymaf.

Mae cyfeiriannu'n hygyrch i bawb. Does dim ots pa mor ifanc, hen neu ffit ydych chi gan fod modd i chi redeg, loncian, cerdded neu ddefnyddio'r sgwteri Tramper Beamer a chwblhau'r cwrs ar eich cyflymder eich hun.

Mae Clwb Cyfeiriannu Bae Abertawe wedi sefydlu 26 o bwyntiau trwy Barc Gwledig Ystâd y Gnoll, ac awgrymir sawl cwrs ar fap Parc Gwledig Ystâd y Gnoll neu gallwch lunio eich llwybr eich hun.

Mae mapiau ar gael i'r Ganolfan Ymwelwyr am £1 yn unig.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot