Hepgor gwe-lywio

Dechrau'r diwedd

Cymerwch gam yn ôl mewn amser

Ar ôl i Mary Ann ailbriodi, gwerthwyd y plas i Henry Grant ym 1811 am £100,000 a bu'n byw ym Mhlas y Gnoll nes iddo farw ym 1832. Arhosodd John Grant, ei fab, yn y Gnoll a gwerthodd rhan sylweddol o'r ystâd ym 1857 yn fuan cyn ei farwolaeth.

Trosglwyddwyd yr ystâd i'w gefnder, Charles Evan Thomas, a ddymchwelodd adain ddwyreiniol y plas ac a gafodd wared ar yr addurniadau castellog am resymau treth ym 1881.

Yn ystod y deugain mlynedd nesaf, bu sawl person yn byw yn y plas ac ym 1923, Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd oedd yn berchen arno. Ni welai'r cyngor unrhyw ddefnydd parhaol ar gyfer y plas ac felly dirywiodd ei gyflwr yn araf.

Defnyddiwyd y plas o 1925 am sawl blwyddyn fel clinig iechyd ar gyfer ardaloedd Castell-nedd a Phort Talbot. Ac yn ystod yr ail ryfel byd, cafodd ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer a hyfforddi personél A.R.P.

Y Gnoll Heddiw

Erbyn 1957, roedd y plas wedi'i adael yn wag ac felly yr unig beth a allai'r cyngor ei wneud oedd ei ddymchwel. Dirywiodd Ystâd y Gnoll trwy gydol yr ugeinfed ganrif nes i waith adnewyddu ddechrau arno ym 1984.

Dechreuodd y gwaith yng Nghoed y Tŷ Mwsogl a chafodd ei hestyn i ardal hen Blas y Gnoll. Ym 1987, rhoddodd y Comisiwn Cefn Gwald, sef Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn ddiweddarach, statws parc gwledig i'r ystâd.

Heddiw, mae Parc Gwledig Ystâd y Gnoll wedi cael llawer o waith adnewyddu i gynnal a chadw nodweddion sydd wedi llunio hanes yr ystâd.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot