Hepgor gwe-lywio

Mynediad i Bawb

Darparu amgylchedd hygyrch i bawb

Mae Parc Gwledig Ystâd y Gnoll yn hygyrch i bawb; mae'r ganolfan ymwelwyr a'r caffi yn addas i gadeiriau olwyn ac mae toiled i bobl anabl ar y safle. Mae'r tir o amgylch y pwll pysgod a'r maes chwarae antur wedi'i wella yn ddiweddar gan ddarparu mynediad hawdd i bramiau, cadeiriau olwyn a sgwteri Tramper Beamer yn ogystal â llwybrau a ffyrdd eraill i gerddwyr o amgylch y parc sydd bennaf yn wastad â chanddynt arwyneb graean. Mae gan y pyllau yn y parc 6 phlatfform genweiro ar gyfer pob gallu, sy'n hygyrch i bobl ag anableddau neu sydd â phroblemau symudedd.

Cyflwyniad

Cyn eich taith gyntaf ar ein sgwteri Tramper Beamer, bydd angen i chi gael cyflwyniad gan y staff hyfforddedig yn y dderbynfa.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot