Hepgor gwe-lywio

Plas y Gnoll a Nodweddion

Ymweld â'r atyniadau yn y Parc

Plas y Gnoll

Prynodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ddau dy am bris un yn ddiarwybod wrth brynu plas y Gnoll ym 1923. Cafodd plas y Gnoll ei ddymchwel yn 1957 gan y cyngor a fu'n gartref i'r teulu Mackworth yn y 18fed ganrif.

Y tŷ arall a brynwyd yn ddiarwybod oedd y plas neuadd bonedd gwreiddiol a llai o'r 17eg ganrif a adeiladwyd gan y teulu Evans a oedd yn 'dod o'r Gnoll' a Chastell-nedd. Priododd y teulu Mackworth i mewn i'r teulu Evans 30 mlynedd ar ôl i blas neuadd bonedd Evans gael ei adeiladu ar Ystâd y Gnoll.

Yn ystod y 19eg ganrif, diweddarwyd Plas y Gnoll gan genedlaethau o'r teulu Mackworth. Ychwanegodd Syr Herbert Mackworth adeiniau'r gogledd a'r de i gyfleu'r syniad o dyrrau castell yn troi plasty clasurol yn fawredd Plas y Gnoll.

Erbyn 1845, roedd adain ddwyreiniol y plas wedi diflannu. Ar ddiwedd cyfnod teulu Mackworth, daeth diwedd cyfnod Plas ac Ystâd Mawreddog y Gnoll. Ym 1881, dymchwelwyd adain ddwyreiniol y plas gan Charles Evan Thomas a oedd yn berchen ar Blas y Gnoll ar y pryd a newidiodd olwg y plas drwy dynnu'r addurniadau castellog. Roedd y newidiadau hyn wedi lleihau taldra'r plas 40 troedfedd.

Ha-ha

Mae teras glaswelltog yn ymestyn o safle'r hen blas gwreiddiol gan ddod i ben mewn 'ha-ha'.

Ffens neu ffos suddedig yw'r 'ha-ha' sy'n ymddwyn fel ffin i barc neu ardd heb amharu ar yr olygfa. O'r 'ha-ha' ceir golwg o'r rhaeadrau ffurfiol.

Tŷ Iâ

Ger yr 'ha-ha', ceir grisiau sy'n arwain at y tŷ iâ. Roedd iâ yn cael ei gludo o mor bell â'r Arctig ym misoedd yr haf ond yn ystod misoedd y gaeaf deuai o leoliadau agosach.

Y Lawnt Fowls a'r Cwrt Tenis

Roedd y lawnt fowls a'r cwrt tenis ger Plas y Gnoll. Nid ydynt yn cael eu defnyddio bellach ond maent dal yn weladwy. Roedd y lawnt fowls yn unigryw oherwydd roedd ar ffurf cylch.

Y Gerddi Ffurfiol

Mae'n annhebygol y byddai plas gwreiddiol y Gnoll wedi cynnwys unrhyw erddi mawr. Ymddangosodd yr ardd gyntaf arwyddocaol ym 1702 pan oedd Syr Humphrey Mackworth wedi cynnwys nodweddion Ffrengig traddodiadol. Roedd y rhain yn cynnwys teras ffurfiol, parterres a rhodfa o gastanwydd melys. Roedd Syr Humphrey Mackworth hefyd wedi gosod tri o'r pyllau.

Adeiladwyd y rhain yn ffurfiol iawn mewn llinellau syth gyda phisgwydd ar ochr y coetir. Yn ystod dechrau'r 19eg ganrif, cyflwynwyd y rhododendronau a'r coed o amgylch y plas yn ogystal â'r cwrt tenis a'r lawnt fowls.

Tŷ'r Pwll Pysgod

Roedd y beili'n byw yn Nhŷ'r Pwll Pysgod a'i gyfrifoldeb oedd cynnal a chadw a diogelu'r pwll pysgod. Roedd y pwll yn llawn carpiau ar gyfer prydau'r teulu Mackworth.

Y Tŵr Iorwg

Adeiladwyd y Tŵr Iorwg ym 1795 gan Mary (Molly) Mackworth fel tŵr gwylio a oedd yn edrych dros dref Castell-nedd a Chwm Nedd a thros raeadrau'r Tŷ Mwsogl. Mae hefyd yn un o'r tirnodau pwysicaf yng Nghwm Nedd gan eich bod yn gallu ei weld o ganol y dref, y ffordd osgoi a'r A4107.

Roedd y Tŵr Iorwg yn un o'r adeiladau diweddarach a godwyd yn y 18fed ganrif ond roedd yn chwarae rhan sylweddol yn nefnydd hamdden Ystâd y Gnoll yn y cyfnod. Roedd gofalwr yn byw ar y llawr cyntaf gydag ystafell gron a oedd yn 8 metr mewn diamedr ar y llawr cyntaf a ddefnyddid fel llawr dawnsio ac ardal wledda. Byddai ciper yr Ystâd wedi byw yno tan 1920 pan gafodd y tŵr ei ddifetha gan dân. Yr hyn sydd ar ôl o'r tŵr bellach yw'r gragen allanol. Fodd bynnag mae wedi'i restru'n adeilad Gradd II gan Cadw, oherwydd ei fod o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot