Hepgor gwe-lywio

Cerdded

Mwynhau'r golygfeydd hardd yn y Parc

Mae Parc Gwledig Ystâd y Gnoll yn ymestyn dros 200 erw o goetir a mannau agored sy'n aros i gael eu harchwilio.

Ceir llu o lwybrau cerdded sy'n caniatáu i bawb fwynhau rhyfeddodau Parc Gwledig Ystâd y Gnoll.

Mae nifer o lwybrau i bawb o bob gallu ar gael sy'n amrywio o daith gerdded hamddenol i daith gerdded llawn antur.


Isod ceir map ynghyd â rhai o hoff deithiau cerdded Parc Gwledig Ystâd y Gnoll eisoes wedi'u nodi er cyfleustra i chi.

Taith Gerdded Bywyd Gwyllt

Mae Parc Gwledig Ystâd y Gnoll yn darparu hafan ar gyfer bywyd gwyllt. Dewch i fwynhau un o dair taith gerdded bywyd gwyllt y Gnoll, neu bob un ohonynt, a fydd yn eich helpu i archwilio'r parc a darganfod ei fywyd gwyllt.


Teithiau Byw'n Iach

Datblygwyd cyfres o deithiau cerdded hawdd o amgylch y Fwrdeistref Sirol er mwyn annog pobl i wneud mwy o ymarfer corff.

Mae'r teithiau cerdded wedi'u graddio fel a ganlyn:

Hawdd (Gwyrdd)
Cymedrol (Melyn)
Egnïol (Coch)

Sylwer bod y teithiau cerdded hyn yn awgrymiadau'n unig. Dylech gysylltu â'ch meddyg teulu cyn dechrau unrhyw raglen ymarfer corff.

Math o ffeil Dogfen Maint ffeil
pdf Gnoll Attractions Map
1.61 MB
pdf Teithiau Cerdded Bywyd Gwyllt y Gnoll
2.90 MB
pdf Walk 3: To the Mosshouse Reservoir Gnoll Estate Country Park
3.97 MB
pdf Walk 1: Around the fishpond Gnoll Estate Country Park
3.48 MB
pdf Walk 2: Around the ruins Gnoll Estate Country Park
3.87 MB
Lawrlwytho...
Packaging:  
Complete
© Cyngor Castell-nedd Port Talbot