Hepgor gwe-lywio

Rhaeadrau

Dewch i weld prydferthwch y rhaeadrau

Rhaeadrau Anffurfiol

Adeiladwyd y rhaeadrau anffurfiol yn wreiddiol yn y 1740au ac fe'u hadnewyddwyd yn weddus yn y 1980au. Gweler dwy nodwedd ddiddorol, y Groto a'r Arsyllfa, ar ben y rhaeadrau. Adeiladwyd y ddwy yn wreiddiol fel ffoleddau.

Groto

Datguddiwyd y Groto ar ôl diflannu o dan dirlithriad rhywbryd yn y 18fed ganrif. Mae'r Groto'n ystafell â tho cromennog sydd oddeutu 18 troedfedd ar ei draws. Mae'r llawr wedi'i wneud o gerrig palmant ac wedi'i osod mewn morter a wnaed o stalagmidau a wnaed â llaw o galchfaen a chregyn cocos.

Byddai'r Groto yn lle oer braf i eistedd a gorffwys a byddai gwrthrychau o ddiddordeb i ymwelwyr i edrych arnynt. Mae'n debygol bod cerrig y Gnoll (a gedwir yn Amgueddfa Abertawe erbyn hyn) yn rhan o'r arddangosfa hon. Roedd y Groto unwaith hefyd wedi'i addurno'n fewnol gyda chregyn ar y waliau a'r to. Deuai'r cregyn hyn o bedwar ban byd, ac yn benodol o India'r Gorllewin.

Rhaeadrau Ffurfiol

Crëwyd y rhaeadrau ffurfiol gan Syr Humphrey Mackworth yn ystod 1730. Yn y cyfnod hwn, ehangodd Plas y Gnoll ac roedd ganddo 28 o ddynion yn gweithio i greu gerddi hardd. Adeiladwyd y rhaeadrau ffurfiol yng Nghoed y Pwll Pysgod ac maent wedi'u hadnewyddu'n ddiweddar i'w gogoniant blaenorol.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot