Hepgor gwe-lywio

Pyllau

Archwiliwch y pyllau niferus yn y Parc

Y Pwll Cyntaf (Isaf) neu Fawr

Yn ddiau, hwn oedd y gronfa ddŵr gyntaf a wnaed ar Nant Preswylfa (tua 1680) i gyflenwi dŵr i'r diwydiannau newydd a adeiladwyd yn rhan isaf y cwm. Cafodd ei ddatblygu'n bwll nofio awyr agored i Gastell-nedd ym 1923, gyda ffedog goncrit a chwt nofio a gafodd ei ddefnyddio tan 1963 pan adeiladwyd pwll nofio dan do newydd yng nghanol y dref.

Defnyddir y Pwll Cyntaf (Isaf) neu Fawr ar hyn o bryd fel un o Byllau Pysgota'r Gnoll. Buddsoddwyd yn sylweddol yn y pyllau yn ddiweddar a bellach mae ganddynt chwe phlatfform newydd ar gyfer pob gallu, sy'n golygu eu bod yn hygyrch i bobl anabl a/neu'r rhai sydd â phroblemau symudedd.

Y Pwll Pysgod

Enw arall am y pwll hwn yw'r Ail Bwll. Y gronfa ddŵr hon yw'r un fwyaf pwysig o ran gwerth golygfaol a photensial hamdden. Mae'n dal oddeutu 6.6 miliwn o alwyni o ddŵr ac felly dyma'r mwyaf o'r pedwar corff dŵr ym Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll.

Mae ganddo hanes diddorol hefyd ers iddo gael ei ehangu gan Herbert Mackworth drwy foddi ffordd fach, weithredol a gafodd ei herio yn y senedd ar y pryd. Ym 1860, gyda'r rheilffordd ager yn defnyddio symiau enfawr o ddŵr, rhoddwyd trwydded i gymryd dŵr trwy bibell 5". Roedd y bibell yn arwain yn uniongyrchol i Orsaf Reilffordd Castell-nedd.

Mae'r pwll pysgod bellach yn atyniad poblogaidd gyda llawer o ymwelwyr yn dod i fwydo'r hwyaid neu i fynd am dro heibio i'r Rhaeadrau Ffrengig.

Y Pwll Gini

Prif nod adeiladu'r Pwll Gini oedd cynyddu'r cyflenwad dŵr diwydiannol. Yn wahanol i'r Pwll Cyntaf a'r pwll pysgota sydd mewn cymoedd naturiol, codwyd argae ar dair ochr y Pwll Gini gydag argloddiau isel ac roedd llif y dŵr a oedd yn bwydo'r pwll pysgod wedi'i rannu i ddarparu'r dŵr angenrheidiol. Roedd y Pwll Gini bron wedi diflannu'n gyfan gwbl erbyn y 1990au ac roedd yn rhaid ei gloddio a'i ail-leinio â chlai. Bellach mae'n gronfa ddŵr ar gyfer bywyd gwyllt.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot