Hepgor gwe-lywio

Gnoll Park Survey

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot eisiau ystyried sawl opsiwn er mwyn gwella’r hyn a gynigir i ymwelwyr ym Mharc Gwledig hanesyddol Ystâd Gnoll yng Nghastell-nedd, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn lle poblogaidd ac annwyl ble gall pobl leol ac ymwelwyr o bant barhau i ymweld a mwynhau.

A nawr mae’r Cyngor yn bwriadu casglu barn trigolion Castell-nedd Port Talbot ynghylch sut y dylid gwella neu ddatblygu’r Parc Gwledig mewn dull addas, drwy gyfrwng arolwg ar lein.

Y syniad yw y gall y Cyngor wneud unrhyw welliannau mewn ymateb i anghenion trigolion ac ymwelwyr.

Bydd canlyniadau’r arolwg, sy’n gofyn i bobl beth yw eu barn am arlwy presennol y Parc Gwledig, a beth hoffen nhw ei weld, neu beidio â’i weld, yno, yn cael eu dadansoddi, ac yna rhoddir blaenoriaeth i unrhyw gynigion dichonadwy ar gyfer eu cyflawni i’r dyfodol o bosib, yn ddibynnol ar gael arian i wneud hynny.

Mae Parc Gwledig Ystâd Gnoll bellach yn cynnwys bron 219 erw o dir parc, amrywiaeth eang o adeiladau a strwythurau rhestredig gan gynnwys rhaeadrau ffurfiol, canolfan ymwelwyr sy’n cynnwys caffi, toiledau cyhoeddus, cyfleusterau cyfarfod, cwrs golff ‘pitch and putt’ naw twll, llwybrau cerdded niferus, pyllau dŵr a chyfres o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, sy’n cynnwys reidiau ffair.

Bydd yr arolwg yn gofyn am farn trigolion ar syniadau newydd fel cychod rhwyfo i’w llogi, sinema awyr agored, ardal chwarae newydd, llwybr cerfluniau, llwybr chwarae, cyfleusterau chwarae dan do, gwell cynnig yn y caffi, mwy o ganolbwyntio ar gadwraeth / yr amgylchedd, darparu mwy o wybodaeth am hanes y safle / ardal leol, a gwyliau a digwyddiadau eraill.

Mae’r arolwg ar lein yn cau ar Chwefror 7fed, 2020.

 

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot