Cwblhawyd y gwaith ar y rhaeadrau gan gontractwr lleol gan ddefnyddio cloddiwr bach a chafwyd gwared ar swm sylweddol o silt a llaid.
Yn ogystal â'r rhaeadrau, cliriodd y contractwr nifer o gyrsiau dŵr trwy'r parc.
Crëwyd y rhaeadrau gan deulu diwydiannol cyfoethog y Mackworths.
Mae'r ystad, a roddwyd trwy briodas yn wreiddiol i Syr Humphrey Mackworth, sef Aelod Seneddol a sicrhaodd fod ystad y Gnoll yn ganolbwynt ymerodraeth ddiwydiannol, gan felino a chynhyrchu nwyddau pres a haearn, gan gynnwys tegelli.
Roedd llwyddiant ei waith diwydiannol wedi ei alluogi i osod gerddi ffurfiol ger plasty'r parc.
Ehangodd mab Syr Humphrey, Herbert, a oedd hefyd yn AS, y gerddi unwaith eto ac o 1730, dechreuodd waith tirlunio sylweddol, gan greu golygfeydd ysgubol a chreu'r rhaeadrau.
Dros y degawdau nesaf, ychwanegwyd nodweddion clasurol at y tir, gan gynnwys groto, porthdy a theml gastellog.