Hepgor gwe-lywio

Siglen Rhianna

Siglen Rhianna

Roedd Rhianna'n ferch fach hapus ac egnïol iawn. Roedd hi'n caru dawnsio, chwarae gyda'i ffrindiau, mynychu clybiau, ninjutsu ac wedi dechrau dysgu sut i ganu'r piano. Ond pan yr oedd hi'n 8 mlwydd oed dechreuodd ddioddef problemau cydbwysedd. Dechreuodd syrthio a daeth yn gynyddol drwsgl. Darganfuwyd tiwmor anoperadwy yng nghoesyn yr ymennydd yn ystod sgan CT.

Ar 1 Ebrill 2015 cafwyd bod Diffuse Intrinsic Pontine glioma gan Rhianna. Diagnosis distrywiol a fyddai'n newid ei bywyd am byth.

Dechreuodd ar gwrs carlam o radiotherapi er mwyn ceisio arafu twf y tiwmor ymosodol iawn ac anodd iawn ei drin-oherwydd ei leoliad.

Rhianna oedd un o'r cleifion cynharaf i gymryd rhan mewn cyn-dreial yn ysbyty plant Bryste, yr unig le yn y byd sy'n cynnig darpariaeth cyffur uniongyrchol o'r enw CED mewn ymgais i geisio lleihau'r tiwmor.

Yn ystod hyn i gyd, parhaodd Rhianna i fod yn hapus ac yn gadarnhaol; gyda gwên bob amser ar ei hwyneb a byth yn cwyno. Llwyddodd ei chymeriad llawen i wneud i bawb arall wenu hefyd!

Roedd Rhianna yn ddewr heb ddigalonni byth. Brwydrodd yn galed ac arhosodd yn gryf trwy gydol ei salwch.

Roedd y ferch fach arbennig, a oedd wedi dioddef anawsterau anadlu fel babi newydd ei geni, eisoes wedi brwydro yn erbyn pob disgwyl ac, heblaw am golli clyw, wedi gwneud adferiad llawn.

Fodd bynnag, yn ei bywyd byr yr oedd hi nawr yn brwydro am yr eildro. Gwthiodd ei hun yn ddiflino mewn sesiynau ffisiotherapi, ond yn fuan iawn achosodd y tiwmor iddi fod yn gaeth i gadair olwyn.

Serch hyn i gyd gwnaeth yn fawr o bob diwrnod, a rhwng triniaethau mwynhaodd nifer o bartïon a thripiau gan gynnwys sioeau y West End, teithiau siopa i Lundain, gwyliau carafán a chyrchfannau. Roedd hi wrth ei bodd gyda'r amser hudol y treuliodd gyda'i theulu yn ymweld â'r goleuadau Nadolig yn Disneyland Paris.

Aethom â Rhianna hefyd i barc Ynysangharad ym Mhontypridd sydd â siglen â mynediad i'r anabl. Roedd e'n brofiad anhygoel i Rhianna allu ymuno â'i ffrindiau cadarn o gorff ar rai o'r cyfarpar. Cafodd hi gymaint o hwyl fel yr edrychom ni am feysydd chwarae eraill â chyfarpar arbenigol ond nid oedd un arall yng Nghymru. Y parc cynhwysol agosaf oedd yng Nghaerwysg felly trefnwyd taith. Yn anffodus ni fu'n bosib i Rhianna fynd ar y daith. Dangosodd sgan MRI fod y driniaeth wedi lleihau'r tiwmor, ond roedd y tiwmor wedi ymledu.


Ar 23 Mehefin 2016, bu farw Rhianna yng nghwmni ei theulu, yn naw mlwydd oed.

Caiff ei synnwyr digrifwch a'i chwerthin hyfryd eu colli bob dydd gan gynifer o bobl, ond ni fyddwn byth yn ei hanghofio. Gobeithio y bydd parc Siglen Rhianna yn gofeb barhaol i blant eraill, sydd yn ei ddefnyddio i gofio am ferch fach dewr a hardd.

© Cyngor Castell-nedd Port Talbot